Ymwelwyr

baneri

 

Patagonia 150

poster diwrnod dathlu poster cyngerdd

Diwrnod Dathlu yn
Ysgol Pentreuchaf

Dydd Sadwrn 6ed Mehefin rhwng
10-4 o’r gloch - cliciwch yma

Cyngerdd Dathlu yn
Neuadd Dwyfor

Nos Sadwrn 6ed Mehefin am 7

o’r gloch - cliciwch yma

 

I weld y pamffled - cliciwch yma

 

 


 

Parêd Pwllheli 2015

plant llun Disgyblion a rhieni Ysgol Pentreuchaf yn gorymdeithio drwy strydoedd Pwllheli i ddathlu ein Cymreictod ac ein cyfeillgarwch gyda Ysgol yr Hendre ym Mhatagonia yn ystod Parêd Pwllheli 2015.

 

 


 

Twît gan Eryl Crump (@DPGwynedd)

tweet

05/12/2014 18:58
Pupils @Ysgolpentre sing their heart out to mark twinning with Patagonia's only Welsh school http://www.dailypost.co.uk/news/local-news/ysgol-pentreuchaf-twins-school-patagonia-8236166

 


 

Anturiaethau Miss Sara Jones

Dewch i ddarllen anturiaethau Miss Sara Jones (athrawes Ysgol Pentreuchaf); Morgan (disgybl ym Mlwyddyn 4 Ysgol Pentreuchaf); Karen (mam Morgan) a Luned Rhys Parri (artist Gymreig o'r Groeslon ym Mhatagonia wythnos yma!

 

4ydd o Ragfyr 2014
Aeth tair athrawes o’r ysgol  â ni i Punta Tombo i weld y pengwiniaid oedd newydd ddychwelyd o Frasil, yn dilyn yr haul.  Hwn ydi un o’r trefi pengwiniaid mwyaf yn y byd.  Roedd cannoedd ohonynt yn cerdded, dodwy a gorwedd ar hyd y lle.  Roeddym i gyd wedi dotio.  Yng nghanol y pengwiniaid roedd llwyth o tuca tuca, math o lygod bach, yn rhedeg.  Cawsom swper yn nhŷ Angelica a chefais innau’r cyfle i gyfarfod ei merch, Lowri, a gafodd ei geni y diwrnod oeddwn i’n gadael Patagonia ddwy flynedd yn ôl.  Rhwng 9 ac 11 o’r gloch ydi amser swper yn yr Ariannin felly, fel y gallwch ddychmygu, roeddem ni ar lwgu erbyn hynny!

 

 

Bore wedyn cawsom daith i El Doradillo i weld y morfilod oedd yn nofio’n agos i’r lan.  Ym Mhorth Pyramides cawsom fynd ar gwch i ganol y morfilod.  Biti garw fy mod i’n sâl môr!  Ymlaen wedyn i Benrhyn Valdes i weld gwanacos, mara (math o ysgyfarnog), gaucho a cheffylau gwyllt, morloi a morlewod.  Gorffenwyd y daith ym Mhorth Madryn, lle glaniodd yr ymfudwyr cyntaf o Gymru, a chawsom weld yr ogofau fu’n gartref iddynt a’r amgueddfa sy’n croniclo’r hanes. 


Cynhaliodd Luned Rhys Parri y gweithdy celf cyntaf yn Ysgol yr Hendre y diwrnod canlynol.  Roedd pawb wedi edrych ymlaen yn arw am hyn a chawsom ein croesawu gyda mate, y te traddodiadol.  Yna aeth Ricardo Irianni, ffermwr a pherchenog busnes tebyg i Wynnstay, â ni o gwmpas Dolafon i weld ei fferm, y capeli a Llain Las, sef cartref Nel Fach y Bwcs.  Y noson honno cawsom ymweld ag Amgueddfa’r Gaiman cyn mynd i wrando ar ymarfer Côr y Gaiman.

 


Roedd pawb yn dathlu diwrnod y traddodiadau y dydd canlynol a chawsom fynd i Ysgol Fabanod Moreno am wledd o ganu a dawnsio traddodiadol.  Cafodd Karen a Morgan gyfle i ymweld â’r amgueddfa ddeinosoriaid ac yn y pnawn cynhaliwyd y gweithdy celf olaf yn Ysgol yr Hendre.  Cafodd  gwaith prosiect gefeillio yr ysgol ei gyflwyno i ni i’w ddychwelyd i Gymru gyda’r gwaith celf gorffenedig.  Cafodd Morgan gyfle i ostwng y faner ar ddiwedd y dydd a chael cyfle i ddysgu dipyn o Sbaeneg gyda’r plant.   ‘Hola che!’  Cael te wedyn ym Mhlas y Coed, tŷ te Ana Chiabrando, yn y Gaiman.  Llond hambwrdd o frechdanau, jam, cacennau a llond tebot o de gyda chwpanau.  Blasus iawn!  Yn anffodus roedd Morgan mewn gwersi Cymraeg gydag Iwan Madog!  Mae’n anodd coelio fod gennym le i fwyta ychwaneg ond aethom i dŷ Esyllt Nest Roberts, a arferai fyw yn Y Ffôr, wedyn i gael swper. 


Aethom yn ôl i’r Gaiman y bore wedyn i gael taith o gwmpas  lle gydag Eluned Jones, athrawes Gymraeg gyda’r Cyngor Prydeinig.  Aeth â ni i weld y tŷ cyntaf i’w adeiladu yn y Gaiman, sef tŷ David Roberts, ac Amgueddfa Cartre’r Bardd.  Cawsom ginio gyda Luned Gonzalez, brenhines y Gaiman.  Hwyl oedd mynd drwy dwnel hir ar y ffordd i bwynt uchaf y Gaiman lle roedd cerflun anferth, newydd o Gennin Pedr.  Roeddem ni’n gallu gweld gwlad o Gaiman o’n cwmpas.  Fel clo bendigedig i’n hymweliad daeth twr o ffrindiau atom am swper yng Ngwalia Lân.  Trist iawn oedd ffarwelio efo pawb ar ôl y fath groeso.


Cael a chael fuodd hi i ddal yr awyren y bore canlynol ar ôl i’r larwm beidio a chanu!  Ar ôl cyrraedd Buenos Aires bu raid i ni gyfarfod ag Ayelen Borgatti a Mary Godward o’r Cyngor Prydeinig i drafod y gefeillio.


Braf iawn oedd glanio’n ôl yn saff ar dir Cymru ar ôl profiad bythgofiadwy!

 


 

14 o Dachwedd, 2014

Helo blant! Miss Jones sydd yma! Mae fy amser i'n Patagonia bron iawn a dod i ben a chyn bo hir mi fydda i'n ôl ar y awyren ac yn hedfan yn ôl i Gymru. Mae fy nghês i'n llawn o waith celf plant Ysgol yr Hendre i chi gael ei weld a'r camera yn llawn o ffilmiau Morgan.

 

Roedd plant Ysgol yr Hendre wrth eu boddau gyda'r gwaith wnaethoch ei greu iddyn nhw a'r cardiau post ac mae nhw rwan yn brysur yn meddwl am beth i roi yn eu bocs diwylliant nhw, am ychwaneg o ffyrdd i chi ddod i adnabod eu hardal a'u gwlad nhw ac maent am wneud ffilm fer i'r ysgol.


Rydym wedi cael tripiau i weld pengwiniaid, morfilod a'r ogofau ble glaniodd yr ymfudwyr cyntaf ym Mhorth Madryn.


Wel, mae'r cês bron yn llawn a finnau'n barod am y ciando.


Rydw i'n edrych ymlaen i'ch gweld chi i gyd dydd Llun!


Hwyl a hasta luego!


Miss Jones

 


 

11 o Dachwedd, 2014

Roedd hi'n wib ar y naw i orffen pacio a pharatoi popeth cyn cychwyn am y maes awyr. Cysgais yr holl ffordd o Lundain i Buenos Aires ond aeth pethau o chwith wedyn ar ôl ffendio bod yr awyren i Drelew wedi cael ei gohirio oherwydd tywydd garw a finnau'n gorfod cysgu yn y maes awyr dros nos.


Gyda'r holl groeso a chyfeillgarwch ar ôl cyrraedd Trelew, roeddwn yn teimlo fel nad oeddwn wedi gadael o gwbwl a hynny i gyd yn Gymraeg! Treuliwyd y tridiau cyntaf yn gweld hen ffrindiau yn Nhrelew a Gaiman, yn bwyta a chymdeithasu. Roedd y gefeillio rhwng y ddwy ysgol yn destun siarad mawr gyda chefnogaeth gref o bob cyfeiriad. (Mae posib y bydd trip disgyblion Ysgol yr Hendre i Gymru yn 2015 yn cael ei symud er mwyn iddyn nhw gael dod i Benwythnos Patagonia ym Mehefin!)

Cefais gwmni Sioned Jones, yr athrawes Gymraeg sydd yn Ysgol yr Hendre ar hyn o bryd, i groesi'r paith i Gwm Hyfryd, lle tebyg iawn i Gymru, gyda mynyddoedd a chaeau gwyrdd. Cawsom gyfle i gyfarfod a Gaucho Cymraeg yn chwarae accordion, dysgu sut i wneud alfajores a'r diod mate, cael gwers Sbaeneg yng nghwmni criw yr Urdd, crwydro i Nant y Fall, Los Tulipanes a gweld bedd Malacara, y ceffyl dewr. Diolch yn fawr iawn i Clare a Victor am gael aros gyda nhw.

Pnawn Iau cyrhaeddodd Luned, Karen a Morgan faes awyr Trelew. Roedd llu o weithgareddau wedi cael eu cynllunio ar eu cyfer, ond fel y mae hi yn yr Ariannin, mae popeth yn gallu newid ar y funud olaf! Yn y bore aethom i weld Ysgol Fabanod yr Hendre a chael cyfle i ddod i adnabod rhai o athrawon yr ysgol. Yna cawsom daith ar fws o amgylch ffermydd ac ardal y Gaiman. Y gair Cymraeg cyntaf welwch chi wrth gyrraedd Gaiman yw ‘Croeso’ a dyma'n union gawsom ni gan Ana Chiabrando wrth gyrraedd.

 

pobl o flaen capel Buom yn crwydro stryd Michael D Jones ac yn ymweld a'r siop fara ac ia, ‘Siop Bara’ yw ei henw hefyd! Ceisiodd Morgan brynu hufen iâ mewn Sbaeneg ac yna sylweddoli bod merch y siop yn siarad Cymraeg! Cawsom fynd o amgylch Bryn Crwn, Lle Cul gan weld dau gapel ac ymweld ag un o ysgolion y dalaith gyda Esyllt Nest Roberts, sydd wedi ei magu yn Y Ffôr ond yn awr yn byw yn Gaiman.

 

Cawsom ginio blasus yng Nghwalia Lan gyda Luned Gonzalez, sydd yn cael ei hadnabod fel brenhines y Gaiman, cyn mynd i Ffair Wyddoniaeth yn Ysgol yr Hendre. plant


pobl Cafodd Karen, Luned a Morgan eu cyfweld gan Luned Gonzalez, sydd yn cyflwyno rhaglen "Gymraeg", ar Radio Chubut i sgwrsio am y gefeillio a gwaith Luned Rhys Parri. Cefais fy nghyfweld wythnos ynghynt.

 

Ar ddiwedd y rhaglen bydd criw yn mynd i gaffi'r Touring am sgwrs Gymraeg i drafod hynt a helyntion pawb!

Dilynwyd hyn gyda sosial yn Ysgol yr Hendre pan gawsom gyfle i gyflwyno gwaith y plant a'r flitsgerdd, a grewyd gan blant Ysgol Pentreuchaf gyda Myrddin ap Dafydd, mewn ffram. pobl plant

 

Dros y penwythnos aethon ni i Punta Tombo i weld y pengwiniaid a Peninsula Valdes i weld y morfilod. Gwledd a hanner!


Cychwynnodd y gweithdai heddiw yn Ysgol yr Hendre.


Fel enw siop yn y Gaiman, ‘De Todo un Poco’ – dyma 'ddipyn bach o bobeth' i chi.

 

 


 

O Bentreuchaf i Batagonia

 

 

 


 

 

10/02/14 Sgwrs Rhaglen John Hardy ar BBC Radio Cymru

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

 

 


Cysylltu

Ysgol Pentreuchaf
Pwllheli
Gwynedd
LL53 8DZ

Rhif Ffôn: (01758) 750600
E-bost: pennaeth@ysgolpentreuchaf.org

Pwysig

Hawlfraint © Ysgol Pentreuchaf.

 

Gwefan gan Delwedd